Cyflwyno testun gydag arddull penodol, e.e. byrrach, symlach, neu addas ar gyfer y we
Os dymunwch i mi ailysgrifennu eich Saesneg, fe wna i ddilyn eich briff am sut mae’ch testun presennol angen ei addasu i weddu i’w bwrpas newydd.
Unwaith y mae testun wedi cael ei ailysgrifennu, dylid yn sicr ei brawf ddarllen ac efallai olygu’r copi. Gan mai fi fydd wedi gwneud y gwaith ailysgrifennu, byddai’n well pe byddai rhywun arall yn gwneud y gwaith prawf ddarllen a/neu olygu copi arno. Gallaf drefnu is-gontractwr ar gyfer y naill neu’r llall neu’r ddwy dasg hon, pe dymunwch.
Os bydd gennych angen cyfieithu’r hyn rydw i wedi’i ailysgrifennu i chi i’r Gymraeg, gallaf is-gontractio hyn hefyd, neu eich cyfeirio ymlaen at gontractwr dibynadwy.
1 Hydref 2023 – Does gen i ddim lle i dderbyn cleientiaid newydd tan 2024.
Prisiau
Fy nghyfnod prisio yw 1 Mawrth i 28 (neu 29) Chwefror. Ar gyfer 2023/24, y gyfradd ailysgrifennu ar gyfer cleientiaid corfforaethol yw £41.60/awr; ar gyfer unigolion preifat, £38.30/awr. Nid wyf yn codi TAW.
Mae faint o waith fydd ei angen ar wahanol destunau’n amrywio, wrth gwrs. Byddwch yn derbyn gwasanaeth wedi’i deilwra; enghreifftiau’n unig yw’r wybodaeth isod. Er hynny, yn gyffredinol, po hiraf y testun, po rhataf y gost fesul gair. Does dim cost ychwanegol am y gwaith o drefnu is-gontractwr neu gyfeirio ymlaen ar gyfer gwasanaeth ychwanegol, cyn belled â bod y gwasanaethau hyn yn gysylltiedig â gwaith ailysgrifennu rydw i wedi’i gwneud i chi.
I roi syniad ichi o gost ailysgrifennu, dyma enghreifftiau o waith ailysgrifennu go iawn o’r gorffennol, wedi’u costio fesul gair ar gyfraddau 2023/24:
- adroddiad o tua 14,000 o eiriau ar gyfer asiantaeth y llywodraeth – 14.1c
- gwerth 4,000 o eiriau o esboniadau yn Saesneg i gyd-fynd â barddoniaeth Gymraeg mewn llyfr Saesneg – 19.4c
- post blog 500 gair ar gyfer unigolyn nad oedd ganddynt afael da ar Saesneg ysgrifenedig – 63.2c (gan edrych yn ôl, efallai y byddai’r gwaith hwn wedi bod yn gynt ac yn haws – ac efallai’n rhatach, hefyd – fel gwaith ysgrifennu, yn hytrach nac ailysgrifennu).
Mae’r cyfrif geiriau yn yr enghreifftiau hyn wedi cael eu talgrynnu.
Prosiectau sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn
Adroddiad gwerthuso Treegeneration, Comisiwn Coedwigaeth
Fe wnes i ailysgrifennu adroddiad gwerthuso 14,000 o eiriau am brosiect peilot mewn ‘Saesneg clir’
Roedd Treegeneration yn brosiect peilot a fu’n darparu cynlluniau plannu coed mewn ardaloedd trefol yng ngogledd orllewin Cymru.
Roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn teimlo bod iaith yr adroddiad gwerthuso yn rhy ‘anystwyth’ ac yn rhy academaidd, felly gofynnwyd i mi ei symleiddio a’i wneud yn haws i’w ddarllen.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru oedd corff Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb am goetiroedd a choedwigaeth; mae wedi’i ddisodli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Gwasanaethau a ddefnyddiwyd:
AilysgrifennuWhat my clients say
Thanks for your hard work with this, you have done a very thorough job and have certainly raised some important points with regards to the project and its evaluation.
(Diolch am eich gwaith caled ar hwn, rydych chi wedi gwneud gwaith trylwyr iawn ac yn sicr wedi codi pwyntiau pwysig ynglŷn â’r prosiect a’i werthuso.)
Adroddiad, Cymdeithas Tai Eryri
Lluniais adroddiad o ystadegau crai a chanlyniadau grŵp ffocws
Roedd Cymdeithas Tai Eryri wedi casglu data ystadegol o’i stoc cartrefi ‘anodd eu gwresogi’ lle’r oedd pympiau gwres ffynhonnell aer a deunydd insiwleiddio wedi’u gosod. Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda’r tenantiaid hefyd.
Cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu adroddiad drafft; y cleient oedd yn cwblhau fersiwn terfynol yr adroddiad 9,000 o eiriau.
Cymdeithas dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn oedd Cymdeithas Tai Eryri; mae bellach yn rhan o Grŵp Cynefin.
What my clients say
Hoffwn ddiolch yn arw i Sue am y holl waith trwyadl a gwerthfawr mae hi wedi gwneud, ac rwyf yn sicr bydd yr adroddiad yn help mawr i ni.