Telerau ac amodau

Er mwyn i ni’n dau wybod lle’r ydym yn sefyll, dylech gadarnhau eich bod yn derbyn fy nhelerau ac amodau. Os nad yw rhywbeth yn glir, holwch. Rhaid i’r unigolyn sy’n derbyn y telerau ac amodau hyn wneud hynny’n ysgrifenedig ac os yw’n eu derbyn ar ran sefydliad, fod wedi’i awdurdodi i wneud hynny.

Wedi ichi gael eich gwneud yn ymwybodol o’r telerau ac amodau hyn, dehonglir ymateb ar lafar yn unig neu ddiffyg ymateb fel derbyniad llawn ohonynt.

1. Diffiniadau a phwyntiau cyffredinol
Ystyr ‘darn’ a ‘darn o waith’ yw pob darn unigol o waith a gomisiynir gennych.

Ystyr ‘gwasanaeth’ yw’r driniaeth rydych chi ei angen ar gyfer eich testun, yn ôl y diffiniadau ar dudalen gwasanaethau gwefan Sue Proof. Os nad yw’r driniaeth rydych chi ei angen ar gyfer eich testun yn disgyn yn dwt o fewn cwmpas un o’r gwasanaethau rydw i’n eu cynnig, bydd angen i chi roi briff i mi ar gyfer y darn.

Dinesydd yng Nghymru yn y Deyrnas Unedig wyf fi, ac yno rwy’n byw. Rwy’n hunangyflogedig ac felly’n gyfrifol am fy nghyfraniadau Yswiriant Gwladol a threth incwm fy hun.

2. Cytuno amodau
Cyn dechrau darn o waith byddwch chi a fi’n cytuno, ac yn cadarnhau’n ysgrifenedig:

  • y gwasanaeth sydd i’w ddarparu, neu’r briff
  • y dyddiad ar gyfer cyflwyno’r darn o waith i mi (neu ddyddiadau, os bydd yn dod fesul rhan)
  • sut bydd y darn o waith yn fy nghyrraedd (h.y. ar bapur neu’n ddigidol, ac os yn ddigidol, fformat y ffeil)
  • sut bydd fy awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r testun yn cael eu cyflwyno i chi
  • amcangyfrif o’r amser sydd ei angen i orffen y gwaith, ar sail sampl nodweddiadol o’r testun; sylwer fod yr amserlen hon yn cynnwys gweithio drwy ddarn o destun un waith, ac mae’n cynnwys yr amser a dreulir ar dasgau ategol (e.e. cymhathu’r briff ac ysgrifennu cwestiynau sy’n codi o’r darn)
  • y byddwch chi neu berson wedi’i enwi o fewn eich sefydliad, ar gael yn brydlon i ymateb i ymholiadau y byddaf yn eu codi
  • y dyddiad(au) ar gyfer cyflwyno’r darn gorffenedig o waith i chi
  • sut y bydd y darn yn cael ei gyflwyno’n ôl i chi
  • y ffi am y darn, ar ffurf dyfynbris fel arfer (ond gellir rhoi amcan bris pe byddai’n well gennych chi)
  • pa dreuliau (os o gwbl) sydd i’w talu gennych (e.e. gwasanaeth negesydd, postio, teithio i gyfarfodydd)
  • i bwy, neu i ba adran, y dylid anfon anfonebau.

3. Hawlfraint
Byddwch yn cadarnhau yn ysgrifenedig:

  • mai chi yw deiliad hawlfraint holl gynnwys y gwaith
  • bod caniatâd gennych i ddefnyddio unrhyw gynnwys sy’n eiddo i drydydd parti (mae cynnwys trydydd parti yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial – AI – a chynnwys wedi’i gyfieithu)
  • eich bod yn fy indemnio’n llawn yn erbyn unrhyw hawliadau trydydd parti o dorri hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill.

4. Llithriad yn yr amserlen
Os byddwch chi’n hwyr yn cyflwyno’r darn i mi i’r graddau fod hyn yn effeithio ar yr amserlen rydyn ni wedi’i threfnu, byddaf yn ymdrechu i aildrefnu’r amserlen mewn modd sy’n derbyniol i ni’n dau.

Cadwaf yr hawl i ganslo’r darn os caiff ei gyflwyno (neu os yw’n debygol o gael ei gyflwyno) i mi’n rhy hwyr i’w gwblhau heb effeithio ar waith arall a/neu gyfaddawdu ar fy safonau proffesiynol.

5. Ffioedd
Unwaith y cytunir ar ffi ar gyfer darn o waith ni ellir ei drafod na’i newid ac eithrio:

  • bod ansawdd neu safon cynnwys y testun yn ei gyfanrwydd yn sylweddol wahanol i’r sampl a roddwyd, ac os felly byddaf yn rhoi dyfynbris diwygiedig i chi (ac amserlen ddiwygiedig hefyd, o bosib), os byddaf yn dewis derbyn unrhyw waith ychwanegol
  • os byddwch yn penderfynu ymestyn cwmpas y darn, ac os felly byddaf yn cynnig dyfynbris diwygiedig i chi, os derbyniaf y gwaith ychwanegol hwnnw
  • os byddwch chi neu fi yn penderfynu canslo’r darn o waith.

Os byddwch yn canslo’r gwaith, a bod mwy nag un rhan o dair wedi’i gwblhau (ar sail y nifer geiriau) cadwaf yr hawl i godi anfoneb am gyfanswm llawn y ffi a ddyfynnwyd. Os byddaf i’n canslo’r gwaith, ni fyddaf yn codi anfoneb am unrhyw waith a gwblhawyd.

6. Blaendaliadau
Os yw’r darn yn un cymharol fawr, neu ei fod yn debygol o ymestyn dros gyfnod sylweddol o amser, mynnaf flaendal (25% o gyfanswm y dyfynbris, fel arfer) cyn dechrau ar y gwaith.

7. Talu
Fel arfer, cyflwynir anfonebau drwy ebost ar yr un diwrnod â’r dyddiad ar yr anfoneb. Rhaid talu anfonebau o fewn 30 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb, nid o’r dyddiad y gwnaethoch chi ddarllen yr ebost a/neu gymeradwyo’r taliad.

Nid ydw i’n gofrestredig ar gyfer TAW ac felly nid ydw i’n codi TAW. Gellir talu mewn arian parod, gyda siec, neu drwy BACS. Nid ydw i’n derbyn taliad drwy PayPal. Rhaid talu mewn punnoedd sterling, oni bai ein bod wedi cytuno i drefniadau sy’n dderbyniol i ni’n dau. Y cleient sy’n talu unrhyw ffioedd banc am drosglwyddo arian.

8. Llog ar anfonebau hwyr
Cadwaf yr hawl i hawlio llog statudol ar gyfradd o 8% yn uwch na Chyfradd Sylfaenol Banc Lloegr o’r dyddiad y mae’r ddyled yn hwyr yn unol â Deddf Hwyr-dalu Dyledion Masnach (Llog) 1998, ac i hawlio swm ychwanegol am fynd ar ôl y ddyled fel y darperir ar ei gyfer yn niwygiad 2002 y Ddeddf. Cadwaf hawlfraint y gwaith nes bydd taliad llawn wedi’i wneud.

9. Derbyn a chwynion
Fel aelod Proffesiynol Uwch o’r Chartered Institute of Editing and Proofreading (CIEP) mae gennyf i’r hyfforddiant, y profiad a’r wybodaeth i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ichi.

Fe wna i fy ngorau i wneud eich darn o waith yn un heb gamgymeriadau, ond byddwch yn derbyn nad oes unrhyw ddarn o waith a wneir gan un bod dynol, waeth bynnag mor fedrus, yn gallu bod yn gwbl rhydd o gamgymeriad. Rydych yn derbyn, yn enwedig gyda gwasanaethau golygu copi, ailysgrifennu a gwasanaethau ysgrifennu (a gyda chyfieithu), bydd wastad posibilrwydd o farn wahanol yn hytrach na mater o gywir neu anghywir.

Byddwch yn cadarnhau’n brydlon bod y darn (neu’r rhan o’r gwaith) a anfonwyd yn ôl atoch wedi eich cyrraedd a rhaid cadarnhau o fewn 7 diwrnod o dderbyn darn gorffenedig o waith eich bod yn fodlon ag ef; bydd diffyg ymateb yn cael ei ddehongli fel boddhad.

Os oes rheswm gennych i gwyno, gwnewch hynny o fewn 7 diwrnod o dderbyn darn gorffenedig o waith, os gwelwch yn dda. Ymdrinnir â’ch cwyn mewn modd cyfrinachol, a byddaf yn ymdrechu i’ch bodloni gyda’r datrysiad. Fel aelod o’r CIEP, rydw i wedi ymrwymo i God Ymarfer y sefydliad, ac mae gan CIEP drefn gwyno.

Os bydd y darn o waith a wnaf i chi yn cynnwys cyfieithu, fel aelod o’r Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru rydw i wedi ymrwymo i’w  God Ymddygiad Proffesiynol.

10. Amgylchiadau anffodus neu nad oes modd eu rhagweld
Yn achos amgylchiadau anffodus sy’n effeithio arnaf i (e.e. salwch, profedigaeth), byddaf yn rhoi gwybod i chi mor fuan ag sy’n bosibl. Os byddaf yn methu cysylltu â chi oherwydd amgylchiadau o’r fath, bydd y trydydd parti dibynadwy (gweler pwynt 15) yn cysylltu â chi.

Os byddwch chi neu fi’n dioddef yn sgil digwyddiadau anghyffredin y tu hwnt i’n rheolaeth (e.e. trosedd, llifogydd, streic), gellir diddymu atebolrwydd a dyletswydd.

11. Yswiriant ac indemniad
Mae gen i yswiriant indemniad proffesiynol; darpariaethau gwrthfirws a chadw data digidol wrth gefn cadarn, a dim ond storfeydd cwmwl gydag enw da fydda i’n eu defnyddio.

Fodd bynnag, chi sy’n gyfrifol am yswirio unrhyw ddeunyddiau gwreiddiol, ffisegol tra byddant yn fy meddiant ac wrth iddynt gael eu symud rhyngoch chi a fi.

Er y gallaf dynnu sylw at faterion cyfreithiol (os oes rhai) sy’n codi yn sgil y darn o waith (e.e. enllib, atgynhyrchu deunydd hawlfraint), chi sy’n gyfrifol am y materion hyn.

12. Ildio hawl
Os na fyddaf yn arfer fy hawliau ar ryw achlysur, nid yw hyn yn golygu fy mod yn ildio fy hawliau eraill na fy hawl i orfodi fy Nhelerau ac Amodau yn y dyfodol.

13. Awdurdodaeth
Rydw i’n gweithredu o fewn y gyfraith sydd mewn grym yng Nghymru, ac rydych chi a mi yn cytuno i ufuddhau i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.

14. Gwrthod gwaith
Cadwaf yr hawl i wrthod ymgymryd ag unrhyw brosiect.

15. Portffolio a chydnabyddiaeth
Cadwaf yr hawl i ddefnyddio deunydd rydw i wedi’i ysgrifennu, ei olygu, ei brawf ddarllen neu’i gyfieithu ar eich rhan yn fy mhortffolio oni fyddwch yn dweud na chaf wneud hynny.

Byddwch yn darparu hyd at 2 gopi am ddim o’r gwaith a gyhoeddwyd wedi’i argraffu fel copi caled os gofynnaf amdano. Pan fo gwaith yn cael ei gyhoeddi ar y we fyd-eang, byddwch yn rhoi’r URL i mi os gofynnaf amdano. Pan fo gwaith yn cael ei gyhoeddi ar fewnrwyd, byddwch yn rhoi allbrint o ansawdd uchel i mi os gofynnaf amdano.

Ar gyfer cyfieithiadau o lyfrau a gweithiau llenyddol eraill, mae’n ofynnol ichi gynnwys fy enw fel cyfieithydd y gwaith, oni bai fy mod yn gwrthod cael fy enwi.

Ar gyfer unrhyw wasanaethau heblaw cyfieithu, nid oes angen ichi fy nghrybwyll yn adran cydnabyddiaeth gwaith wedi’i gyhoeddi. Fodd bynnag, os bwriadwch wneud hynny, byddwch yn rhoi’r cyfle i mi adolygu unrhyw grybwyll o’r fath cyn cyhoeddi a/neu yn rhoi’r cyfle imi wrthod cael fy nghrybwyll.

16. Gwybodaeth bersonol
Byddaf yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol gennych:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad ebost, ac efallai eich rhif ffôn
  • os byddwch yn dod yn gleient, eich cyfeiriad post.

Oni bai eich bod yn dweud wrthyf am beidio, mi fyddaf yn rhannu eich enw, eich rhif ffôn (os rhoddwyd ef) a’ch cyfeiriad ebost gydag un trydydd parti dibynadwy. Y rheswm am hyn yw y gellir rhoi gwybod ichi’n ddiymdroi pe byddai unrhyw anffawd yn digwydd i mi.

Ni wnaf rannu eich manylion cysylltu heb awdurdod penodol fel arall, oni bai fod rhaid imi wneud yn ôl y gyfraith.

Dilynwch y ddolen i ddarllen fy natganiad cwcis a phreifatrwydd llawn.

17. Cyfrinachedd masnachol
Ni fyddaf yn rhannu’ch gwybodaeth fasnachol gyfrinachol gydag unrhyw drydydd parti, oni bai fod y gyfraith yn mynnu hynny; fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod rhai o’r gwasanaethau cwmwl rwy’n eu defnyddio wedi’u lleoli y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Dilynwch y ddolen i ddarllen fy natganiad cwcis a phreifatrwydd llawn.

18. Adolygiadau
O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y byddaf yn newid fy nhelerau ac amodau drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau. Dyddiad yr adolygiad diweddaraf: 4 Tachwedd 2023.