Pa wasanaeth fyddai orau?

Y nod yw galluogi pobl i ddarllen eich testun yn Saesneg a deall eich neges yn hawdd. Dydych chi ddim eisiau iddyn nhw ffwndro neu ddiflasu wrth ddarllen.

Pa wasanaeth sy’n gweddu orau i’ch prosiect?

Rhoi sglein terfynol ar eich geiriau

Os hoffech i mi brawf ddarllen eich ysgrifennu, fe wna i:

  • wirio’r sillafu, gramadeg a’r atalnodi
  • wirio cysondeb geiriau sydd eisoes wedi’u sillafu’n gywir (er enghraifft terfyniadau —ise neu —ize, a therfyniadau —t neu —ed yn Saesneg; neu gysoni southeast, south-east neu south east)
  • wirio bod priflythrennau’n cael eu defnyddio mewn modd cyson a chywir
  • wirio bod rhifau’n cael eu cyflwyno gyda chysondeb
  • wirio bod ffontiau’n cael eu defnyddio gyda chysondeb
  • wirio rhifau tudalennau
  • wirio bod dyfyniadau’n cael eu cyfeirnodi
  • wirio bod darluniau a ffigurau yn y lle iawn, ac wedi’u labelu’n gywir
  • wirio bod canllaw arddull eich mudiad yn cael ei ddefnyddio’n gywir, os oes ganddo un

Tynnu testun ynghyd ar ffurf drafft

Os dymunwch i mi olygu copi i chi, fe wna i:

  • sicrhau bod y testun yn gydlynol ac yn gyson yn fewnol
  • sicrhau bod lefel yr iaith yn addas i’r gynulleidfa darged
  • sicrhau bod y testun yr hyd iawn ar gyfer y pwrpas
  • sicrhau bod rhifau tudalennau, penawdau, isbenawdau, troednodiadau, cyfeirnodau, a’r penawdau parhaus oll yn eu lle ac yn gywir
  • sicrhau bod y dudalen cynnwys yn cyd-fynd â phenawdau’r adrannau, a bod penawdau ac isbenawdau yn helpu darllenwyr i ddeall y darn
  • awgrymu mân aralleirio, i wneud yr iaith yn haws i’w deall neu er mwyn osgoi amwysedd
  • awgrymu gwelliannau strwythur, os bydd angen
  • awgrymu gwelliannau posibl ar gyfer cyfleu ffeithiau, er enghraifft, os gellid disodli darn o destun gan ddarlun neu ffigwr, neu hyperddolen i dudalen we arall
  • nodi unrhyw beth sy’n ymddangos yn aneglur
  • nodi unrhyw ran lle mae’n ymddangos bod darnau o’r testun ar goll
  • nodi unrhyw gamgymeriadau ffeithiol amlwg neu ddatganiadau amheus
  • nodi unrhyw faterion hawlfraint, moesol neu enllib
  • cynnal yr holl wiriadau a gynhwysir yn y rhestr prawf ddarllen

Cyflwyno testun gydag arddull penodol, e.e. byrrach, symlach, neu addas ar gyfer y we

Os dymunwch i mi ailysgrifennu, fe wna i ddilyn eich briff am sut mae’ch testun presennol angen ei addasu i weddu i’w bwrpas newydd.

Troi gwybodaeth grai yn destun rhesymegol a llyfn

Os dymunwch i mi ysgrifennu testun neu gynnwys gwefan gan ddefnyddio gwybodaeth rydych chi eisoes wedi’i ganfod, fe wna i ddilyn eich briff ynglŷn â’r gynulleidfa darged, arddull yr iaith, arddull eich mudiad, hyd y darn ac ati.