Prosiectau dethol

Agatha Christie: Destination Unknown

Fe wnes i brawf ddarllen labeli, paneli a mapiau ar gyfer yr arddangosfa hon

Roedd yr arddangosfa’n ymwneud â chyfnod Christie’n gweithio ar gloddiadau archeolegol yn y Dwyrain Canol gyda’i hail ŵr.

Roedd yn rhan o’r International Agatha Christie Festival 2021, a gynhaliwyd yn y Torre Abbey Museum yn Torquay.

What my clients say

Sue was vital to the success of this project. She ensured consistent and grammatically correct text. It was a pleasure working with her and I won’t hesitate to again.
(Roedd Sue yn hanfodol bwysig i lwyddiant y prosiect hwn. Fe wnaeth hi sicrhau cysondeb a chywirdeb gramadegol ein testun. Roedd yn bleser gweithio gyda hi, a wna i ddim petruso gweithio gyda hi eto.)

curadur yr arddangosfa

Adroddiad #19 yr Independent Monitoring Board y Global Polio Eradication Initiative

Mae’r adroddiad 78 tudalen hwn ar y cynnydd tuag at ddiddymu poliomyelitis yn un o hanner dwsin yr wyf wedi eu prawf ddarllen i’r cleient hwn

Mae’n hanfodol bod adroddiadau ysgrifenyddiaeth y Board yn awdurdodol, ond wedi’u hysgrifennu mewn iaith hygyrch. Yn ogystal â phrawf ddarllen ei adroddiadau, rydw i’n rhoi cymorth i’r ysgrifenyddiaeth ddatblygu canllawiau steil ar gyfer adroddiadau’r Board.

Mae’r Board yn darparu asesiad annibynnol o’r cynnydd mae’r Global Polio Eradication Initiative yn ei wneud o ran darganfod a tharfu ar drosglwyddiad polio’n fyd-eang.

What my clients say

Many thanks for working through the report so quickly …
(Llawer o ddiolch am weithio ar yr adroddiad mor chwim …)

Independent Monitoring Board

Nowhere to Hide, nofel

Fe wnes i brawf ddarllen y nofel ias a chyffro hon, sy’ un o gyfres wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru yn adrodd hynt a hanes y Ditectif Arolygydd Drake

Pan fyddaf yn prawf ddarllen i’r awdur, Stephen Puleston, mae’r ffaith fy mod yn adnabod Gogledd Cymru mor dda yn ddefnyddiol wrth ddychmygu golygfeydd y stori ac mae’n fy ngalluogi i wirio ‘hygrededd’ y stori ynghyd â’r tasgau sydd ar fy rhestr wirio wrth brawf ddarllen.

What my clients say

Sue provided a thorough and comprehensive service when she proofread Nowhere to Hide, the seventh novel in my Inspector Drake series. I greatly valued her editorial comments as well as her diligence in the proofreading exercise. It improved the quality of the book immeasurably and I am looking forward to working with her again. Highly recommended.
(Darparodd Sue wasanaeth trylwyr a chynhwysfawr pan brawf ddarllenodd Nowhere to Hide, sef y seithfed nofel yn fy nghyfres Inspector Drake. Roeddwn i’n gwerthfawrogi ei sylwadau golygyddol yn arw, ynghyd â dygnwch ei gwaith prawf ddarllen. Fe wnaeth wella ansawdd y llyfr yn ddifesur ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi eto. Rwy’n ei hargymell yn fawr.)

awdur

Four Seasons: A Bangor Football Concerto

Dechreuodd y llyfr hwn fel cyfres o bostiau blog telynegol gyda rhyw arlliw hunan-fychanol yn perthyn iddynt

Roedd yr awdur wedi casglu’r rhain ynghyd i greu cyfrol denau o 100 o dudalennau. Fe wnes i eu prawf ddarllen fel cyfanwaith, ac fe gyfrannodd hyn at gydlyniad y llyfr. Mae'r awdur, John, yn gwneud cyfraniad o werthiant pob llyfr i ganolfan adnoddau a gwybodaeth iechyd meddwl Lôn Abaty Bangor.

What my clients say

Thank you so much for your work on 'Four Seasons', Sue. Your professionalism and meticulous attention to detail enabled me to release the book with the confidence that everything was as it should be. Rest assured that my latest efforts will soon be winging their way in your direction!
(Diolch yn fawr iawn am eich gwaith ar 'Four Seasons', Sue. Mae eich proffesiynoldeb a’ch sylw manwl i fanylion wedi fy ngalluogi i gyhoeddi’r llyfr yn hyderus fod popeth fel y dylai fod. Gallwch fod yn siŵr y bydd fy ymdrechion diweddaraf yn cael eu hanfon acw cyn bo hir!)

awdur

Adroddiad i Mantell Gwynedd

Fe wnes i olygu copi ar fersiwn Saesneg o adroddiad effaith gymdeithasol ar brosiect presgripsiwn cymdeithasol yng Ngwynedd

Pwrpas yr adroddiad oedd cyfleu’r effaith a gafodd prosiect Cyswllt Cymunedol Arfon. Cynllun presgripsiwn cymdeithasol ydyw, sy’n cysylltu cleifion â ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned. Gan fod angen anfon yr adroddiad at Lywodraeth Cymru, nod y cleient oedd ‘gwneud yn siŵr ei fod yn gywir’.

Mantell Gwynedd yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol yng Ngwynedd.

What my clients say

Thank you for all your work, all the notes were really clear and helpful, and thank you also for doing the work so promptly. (Diolch i chi am eich holl waith, roedd y nodiadau i gyd yn hynod o glir a defnyddiol, a diolch i chi hefyd am wneud y gwaith mor brydlon.)

Rheolowr Gwerth Cymedeithasol

An Atheists’ Bible, nofel

Cefais fy nghomisiynu i brawf ddarllen y nofel hon am Encyclopédie Diderot a smyglo llyfrau yn Ffrainc yn y 18fed ganrif

Mae’r testun, yn unol â lleoliad a thema hanesyddol y nofel, yn cynnwys geiriau estron di-ri. Un o’r heriau pennaf yn y gwaith o’i brawf ddarllen oedd sicrhau bod y geiriau hynny’n cael eu dangos yn gyson mewn ffont italig. Roedd fy ngallu i feddwl yn ddwyieithog yn gaffaeliad wrth ymgymryd â’r dasg hon.

Hon yw’r drydedd nofel gan Kurtis Sunday i’w chyhoeddi gan Llyfrau Cambria.

What my clients say

You did an amazingly thorough job – thanks a million, much appreciated.
(Fe wnaethoch chi waith rhyfeddol o drylwyr – diolch o galon, rwy’n gwerthfawrogi’n arw.)

awdur

Dogfen Effects Analysis IFRS 17 Insurance Contracts, IFRS® Foundation

Mae’r adroddiad 140 tudalen hwn i’r IFRS® Foundation yn un o ddwsinau o ddogfennau adroddiadau ariannol yr wyf wedi darparu gwasanaeth prawf ddarllen neu olygu copi ar eu cyfer i’r cleient hwn

Mae’n rhaid i ddogfennau’r Foundation fod yn ddiamwys, gan eu bod yn esbonio cysyniadau cymhleth i ddarllenwyr o bedwar ban byd. Mae’n rhaid i’w dogfennau gydymffurfio â’i ganllaw steil hefyd. Mae’r Foundation yn mynnu prawf ddarllen trwyadl ar ei destunau, sydd yn aml wedi’u hysgrifennu gan awduron nad Saesneg yw eu mamiaith.

Mae’r IFRS® Foundation yn datblygu a chynhyrchu set unigol o safonau cyfrifo o safon uchel sydd yn cael eu defnyddio’n fyd-eang mewn dros gant o awdurdodaethau i ddisgrifio perfformiad ariannol cwmnïau.

What my clients say

Our clients, the technical team, were impressed with your work on this document.
(Rydech wedi gwneud argraff dda ar ein cleientiaid, y tîm technegol, efo’ch gwaith ar y ddogfen hon.)

Uwch Olygydd

The Shepherd War Poet, Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn 2017, gan mlynedd ar ôl marwolaeth ei destun: Hedd Wyn

Mae’r llyfr hwn yn cynnwys cyflwyniad gan fardd cyfoes, amserlin bywgraffiadol, detholiad o gerddi Hedd Wyn gyda chyfieithiadau Saesneg, a diweddglo am sut mae cartref ei deulu yn cael ei gadw ar gyfer y genedl.

Fy nhasgau i oedd prawf ddarllen mân wallau ac ati, a golygu iaith y tri awdur gwahanol a gyfrannodd er mwyn sicrhau gwell darllenadwyedd. Mae fy nealltwriaeth o’r Gymraeg a Saesneg yn fy helpu i olygu testunau sydd wedi’u hysgrifennu gan awduron Cymraeg.

Adnoddau cwricwlwm, Sustrans

Fe wnes i olygu copi adnoddau cwricwlwm ar gyfer disgyblion ac athrawon

Rhan o’r dasg oedd gosod cysondeb mewnol ar y testun Saesneg, gan fod gwahanol aelodau o staff wedi ysgrifennu gwahanol rannau ohono.

Wedyn, fe wnes i drefnu cyfieithiad Cymraeg, a phrawf ddarllen y Gymraeg yn erbyn y Saesneg gwreiddiol.

Elusen trafnidiaeth gynaliadwy genedlaethol y DU yw Sustrans.

What my clients say

Many thanks for your help and for doing such a great job in a short space of time.
(Llawer o ddiolch am eich help ac am wneud gwaith mor wych mewn amser mor fyr.)

Swyddog Datblygu Rhaglen ar gyfer Addysg a Phobl Ifanc

Cynllun corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru

Cefais fy nghomisiynu i brawf ddarllen testun Saesneg ei Gynllun Corfforaethol 2014–17

Wedyn, fe wnes i brawf ddarllen y testun Saesneg a Chymraeg ochr yn ochr, i sicrhau bod y ddwy iaith yn dweud yr un peth. Gallai gwahaniaethau ddwyn embaras, yn enwedig i gorff a noddir gan y llywodraeth.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r mwyaf o’r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiad, Cymdeithas Tai Eryri

Lluniais adroddiad o ystadegau crai a chanlyniadau grŵp ffocws

Roedd Cymdeithas Tai Eryri wedi casglu data ystadegol o’i stoc cartrefi ‘anodd eu gwresogi’ lle’r oedd pympiau gwres ffynhonnell aer a deunydd insiwleiddio wedi’u gosod. Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda’r tenantiaid hefyd.

Cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu adroddiad drafft; y cleient oedd yn cwblhau fersiwn terfynol yr adroddiad 9,000 o eiriau.

Cymdeithas dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn oedd Cymdeithas Tai Eryri; mae bellach yn rhan o Grŵp Cynefin.

What my clients say

Hoffwn ddiolch yn arw i Sue am y holl waith trwyadl a gwerthfawr mae hi wedi gwneud, ac rwyf yn sicr bydd yr adroddiad yn help mawr i ni.

Rheolydd Mentrau Cymuned

Adroddiad gwerthuso Treegeneration, Comisiwn Coedwigaeth

Fe wnes i ailysgrifennu adroddiad gwerthuso 14,000 o eiriau am brosiect peilot mewn ‘Saesneg clir’

Roedd Treegeneration yn brosiect peilot a fu’n darparu cynlluniau plannu coed mewn ardaloedd trefol yng ngogledd orllewin Cymru.

Roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn teimlo bod iaith yr adroddiad gwerthuso yn rhy ‘anystwyth’ ac yn rhy academaidd, felly gofynnwyd i mi ei symleiddio a’i wneud yn haws i’w ddarllen.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru oedd corff Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb am goetiroedd a choedwigaeth; mae wedi’i ddisodli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

What my clients say

Thanks for your hard work with this, you have done a very thorough job and have certainly raised some important points with regards to the project and its evaluation.
(Diolch am eich gwaith caled ar hwn, rydych chi wedi gwneud gwaith trylwyr iawn ac yn sicr wedi codi pwyntiau pwysig ynglŷn â’r prosiect a’i werthuso.)

Swyddog Prosiect Treegeneration