Troi gwybodaeth grai yn destun rhesymegol a llyfn
Os dymunwch i mi ysgrifennu testun neu gynnwys gwefan mewn Saesneg gan ddefnyddio gwybodaeth rydych chi eisoes wedi’i ganfod, fe wna i ddilyn eich briff ynglŷn â’r gynulleidfa darged, arddull yr iaith, arddull eich mudiad, hyd y darn ac ati.
Unwaith mae’r testun wedi’i gwblhau i’ch boddhad, dylid yn sicr ei brawf ddarllen ac efallai olygu’r copi. Gan mai fi fydd awdur y testun, byddai’n well pe byddai rhywun arall yn gwneud y gwaith prawf ddarllen a/neu olygu copi arno. Gallaf drefnu is-gontractwr ar gyfer y naill neu’r llall neu’r ddwy dasg hon, pe dymunwch.
Os bydd gennych angen cyfieithu’r hyn rydw i wedi’i ysgrifennu i chi i’r Gymraeg, gallaf is-gontractio hyn hefyd, neu eich cyfeirio ymlaen at gontractwr dibynadwy.
1 Hydref 2023 – Does gen i ddim lle i dderbyn cleientiaid newydd tan 2024.
Prisiau
Fy nghyfnod prisio yw 1 Mawrth i 28 (neu 29) Chwefror. Ar gyfer 2023/24, y gyfradd ysgrifennu ar gyfer cleientiaid corfforaethol yw £45.00/awr; ar gyfer unigolion preifat, £41.40/awr. Nid wyf yn codi TAW.
Mae faint o waith fydd ei angen i greu gwahanol destunau’n amrywio, wrth gwrs. Byddwch yn derbyn gwasanaeth wedi’i deilwra; enghreifftiau’n unig yw’r wybodaeth isod. Er hynny, yn gyffredinol, po hiraf y testun, po rhataf y gost fesul gair. Does dim cost ychwanegol am y gwaith o drefnu is-gontractwr neu gyfeirio ymlaen ar gyfer gwasanaeth ychwanegol, cyn belled â bod y gwasanaethau hyn yn gysylltiedig â gwaith ysgrifennu rydw i wedi’i gwneud i chi.
I roi syniad ichi o gost ysgrifennu, dyma enghreifftiau o waith ysgrifennu go iawn o’r gorffennol, wedi’u costio fesul gair ar gyfraddau 2023/24:
- cynnig 2,500 gair ar gyfer adran prifysgol – 45.0c
- adroddiad 11,000 gair ar gyfer cymdeithas dai – 35.7c.
Mae’r cyfrif geiriau yn yr enghreifftiau hyn wedi cael eu talgrynnu. Nid wyf wedi cael fy nghomisiynu, hyd yn hyn, i ysgrifennu i unigolyn preifat gan ddefnyddio gwybodaeth y maen nhw wedi’i gyrchu.
Prosiectau sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn
Adroddiad, Cymdeithas Tai Eryri
Lluniais adroddiad o ystadegau crai a chanlyniadau grŵp ffocws
Roedd Cymdeithas Tai Eryri wedi casglu data ystadegol o’i stoc cartrefi ‘anodd eu gwresogi’ lle’r oedd pympiau gwres ffynhonnell aer a deunydd insiwleiddio wedi’u gosod. Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda’r tenantiaid hefyd.
Cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu adroddiad drafft; y cleient oedd yn cwblhau fersiwn terfynol yr adroddiad 9,000 o eiriau.
Cymdeithas dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn oedd Cymdeithas Tai Eryri; mae bellach yn rhan o Grŵp Cynefin.
What my clients say
Hoffwn ddiolch yn arw i Sue am y holl waith trwyadl a gwerthfawr mae hi wedi gwneud, ac rwyf yn sicr bydd yr adroddiad yn help mawr i ni.