Rhoi sglein terfynol ar eich geiriau
Os hoffech i mi brawf ddarllen eich ysgrifennu yn Saesneg, fe wna i:
- wirio’r sillafu, gramadeg a’r atalnodi
- wirio cysondeb geiriau sydd eisoes wedi’u sillafu’n gywir (er enghraifft terfyniadau —ise neu —ize, a therfyniadau —t neu —ed yn Saesneg; neu gysoni southeast, south-east neu south east)
- wirio bod priflythrennau’n cael eu defnyddio mewn modd cyson a chywir
- wirio bod rhifau’n cael eu cyflwyno gyda chysondeb
- wirio bod ffontiau’n cael eu defnyddio gyda chysondeb
- wirio rhifau tudalennau
- wirio bod dyfyniadau’n cael eu cyfeirnodi
- wirio bod darluniau a ffigurau yn y lle iawn, ac wedi’u labelu’n gywir
- wirio bod canllaw arddull eich mudiad yn cael ei ddefnyddio’n gywir, os oes ganddo un
Nodwch nid ydw i’n prawf ddarllen y Gymraeg.
1 Hydref 2023 – Does gen i ddim lle i dderbyn cleientiaid newydd tan 2024.
Prisiau
Fy nghyfnod prisio yw 1 Mawrth i 28 (neu 29) Chwefror. Ar gyfer 2023/24, y gyfradd prawf ddarllen ar gyfer cleientiaid corfforaethol yw £34.20/awr; ar gyfer unigolion preifat, £29.40/awr. Nid wyf yn codi TAW.
Mae faint o waith fydd ei angen ar wahanol destunau’n amrywio, wrth gwrs. Byddwch yn derbyn gwasanaeth wedi’i deilwra; enghreifftiau’n unig yw’r wybodaeth isod. Er hynny, yn gyffredinol, po hiraf y testun, po rhataf y gost fesul gair.
I roi syniad ichi o gost prawf ddarllen, dyma enghreifftiau o ddarnau go iawn o waith prawf ddarllen i gleientiaid corfforaethol, wedi’u costio fesul gair ar gyfraddau 2023/24:
- adroddiad o tua 14,000 o eiriau ar gyfer cleient corfforaethol sefydledig – 1.8c
- cyflwyniad PowerPoint corfforaethol o tua 2,000 o eiriau – 5.6c
- adroddiad blynyddol dwyieithog o tua 3,500 a oedd, yn ogystal â phrawf ddarllen y fersiwn Saesneg, angen ei gymharu â’r fersiwn Cymraeg i sicrhau ei fod yn gywir – 12.9c.
A dyma rai enghreifftiau o ddarnau o waith prawf ddarllen go iawn ar gyfer unigolion preifat, ar gyfraddau 2023/24:
- darn mawr o destun ffeithiol, lled-dechnegol o tua 180,000 o eiriau ar gyfer rhywun sy’n hunan-gyhoeddi – 1.1c.
- mae darnau o waith i nofelwyr sy’n hunan-gyhoeddi yn dueddol o fod yn rhwng tua 0.8c a 1.1c.
Mae’r cyfrif geiriau yn yr enghreifftiau hyn wedi cael eu talgrynnu.
Prosiectau sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn
Dogfen Effects Analysis IFRS 17 Insurance Contracts, IFRS® Foundation
Mae’r adroddiad 140 tudalen hwn i’r IFRS® Foundation yn un o ddwsinau o ddogfennau adroddiadau ariannol yr wyf wedi darparu gwasanaeth prawf ddarllen neu olygu copi ar eu cyfer i’r cleient hwn
Mae’n rhaid i ddogfennau’r Foundation fod yn ddiamwys, gan eu bod yn esbonio cysyniadau cymhleth i ddarllenwyr o bedwar ban byd. Mae’n rhaid i’w dogfennau gydymffurfio â’i ganllaw steil hefyd. Mae’r Foundation yn mynnu prawf ddarllen trwyadl ar ei destunau, sydd yn aml wedi’u hysgrifennu gan awduron nad Saesneg yw eu mamiaith.
Mae’r IFRS® Foundation yn datblygu a chynhyrchu set unigol o safonau cyfrifo o safon uchel sydd yn cael eu defnyddio’n fyd-eang mewn dros gant o awdurdodaethau i ddisgrifio perfformiad ariannol cwmnïau.
Gwasanaethau a ddefnyddiwyd:
Prawf ddarllenWhat my clients say
Our clients, the technical team, were impressed with your work on this document.
(Rydech wedi gwneud argraff dda ar ein cleientiaid, y tîm technegol, efo’ch gwaith ar y ddogfen hon.)
Cynllun corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru
Cefais fy nghomisiynu i brawf ddarllen testun Saesneg ei Gynllun Corfforaethol 2014–17
Wedyn, fe wnes i brawf ddarllen y testun Saesneg a Chymraeg ochr yn ochr, i sicrhau bod y ddwy iaith yn dweud yr un peth. Gallai gwahaniaethau ddwyn embaras, yn enwedig i gorff a noddir gan y llywodraeth.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r mwyaf o’r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.
Gwasanaethau a ddefnyddiwyd:
Prawf ddarllen