Tynnu testun ynghyd ar ffurf drafft
Os dymunwch i mi olygu copi i chi, fe wna i:
- sicrhau bod y testun yn gydlynol ac yn gyson yn fewnol
- sicrhau bod lefel yr iaith yn addas i’r gynulleidfa darged
- sicrhau bod y testun yr hyd iawn ar gyfer y pwrpas
- sicrhau bod rhifau tudalennau, penawdau, isbenawdau, troednodiadau, cyfeirnodau, a’r penawdau parhaus oll yn eu lle ac yn gywir
- sicrhau bod y dudalen cynnwys yn cyd-fynd â phenawdau’r adrannau, a bod penawdau ac isbenawdau yn helpu darllenwyr i ddeall y darn
- awgrymu mân aralleirio, i wneud yr iaith yn haws i’w deall neu er mwyn osgoi amwysedd
- awgrymu gwelliannau strwythur, os bydd angen
- awgrymu gwelliannau posibl ar gyfer cyfleu ffeithiau, er enghraifft, os gellid disodli darn o destun gan ddarlun neu ffigwr, neu hyperddolen i dudalen we arall
- nodi unrhyw beth sy’n ymddangos yn aneglur
- nodi unrhyw ran lle mae’n ymddangos bod darnau o’r testun ar goll
- nodi unrhyw gamgymeriadau ffeithiol amlwg neu ddatganiadau amheus
- nodi unrhyw faterion hawlfraint, moesol neu enllib
- cynnal yr holl wiriadau a gynhwysir yn y rhestr prawf ddarllen
Prosiectau sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn
Adroddiad i Mantell Gwynedd
Fe wnes i olygu copi ar fersiwn Saesneg o adroddiad effaith gymdeithasol ar brosiect presgripsiwn cymdeithasol yng Ngwynedd
Pwrpas yr adroddiad oedd cyfleu’r effaith a gafodd prosiect Cyswllt Cymunedol Arfon. Cynllun presgripsiwn cymdeithasol ydyw, sy’n cysylltu cleifion â ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned. Gan fod angen anfon yr adroddiad at Lywodraeth Cymru, nod y cleient oedd ‘gwneud yn siŵr ei fod yn gywir’.
Mantell Gwynedd yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol yng Ngwynedd.
Gwasanaethau a ddefnyddiwyd:
Golygu copiWhat my clients say
Thank you for all your work, all the notes were really clear and helpful, and thank you also for doing the work so promptly. (Diolch i chi am eich holl waith, roedd y nodiadau i gyd yn hynod o glir a defnyddiol, a diolch i chi hefyd am wneud y gwaith mor brydlon.)
Adnoddau cwricwlwm, Sustrans
Fe wnes i olygu copi adnoddau cwricwlwm ar gyfer disgyblion ac athrawon
Rhan o’r dasg oedd gosod cysondeb mewnol ar y testun Saesneg, gan fod gwahanol aelodau o staff wedi ysgrifennu gwahanol rannau ohono.
Wedyn, fe wnes i drefnu cyfieithiad Cymraeg, a phrawf ddarllen y Gymraeg yn erbyn y Saesneg gwreiddiol.
Elusen trafnidiaeth gynaliadwy genedlaethol y DU yw Sustrans.
Gwasanaethau a ddefnyddiwyd:
Golygu copiWhat my clients say
Many thanks for your help and for doing such a great job in a short space of time.
(Llawer o ddiolch am eich help ac am wneud gwaith mor wych mewn amser mor fyr.)