Cyd-destun
Sefydlwyd Sue Proof yn 2008. Un o nodau’r cwmni ers y dechrau yw cadw ei ôl troed carbon mor isel â phosibl. Rydw i’n gweithio o swyddfa yn fy nghartref, felly does dim siwrne i gyrraedd fy ngwaith.
Egwyddorion cyffredinol
- Gweithredir y busnes yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
- Caiff perfformiad ei fonitro a’i adolygu.
Hierarchaeth penderfyniadau teithio
- Penderfynu a oes modd osgoi teithio, er enghraifft, gan ddefnyddio technoleg cyfathrebu; fel arall …
- cerdded neu feicio os yw’r pellter a’r amser yn caniatáu, ond os nad yw hynny’n ymarferol …
- teithio ar drên neu fws os oes gwasanaeth cyfleus yn bodoli ac y gellir ei ddefnyddio gydag isafswm o risg o ran covid – er enghraifft, yn ystod cyfnodau distawach yn y dydd; fodd bynnag, os oes gwasanaeth cyfleus yn dechrau ran o’r ffordd i’r gyrchfan …
- cyfuno dulliau trafnidiaeth i sicrhau defnyddio cyn lleied â phosibl ar y car, ond os bydd rhaid defnyddio car ar gyfer y daith i gyd …
- rhannu car os bydd y cyfle’n codi, a/neu …
- ceisio cyfuno sawl tasg fesul taith, ac wedyn, dim ond pan nad oes dewis arall …
- teithio’r siwrne gyfan ar fy mhen fy hun os bydd rhaid, ond, mewn unrhyw sefyllfa …
- peidio byth â hedfan.
Defnyddio ynni
- Mae’r ddesg wedi’i gosod mewn man sy’n gwneud y defnydd gorau o olau dydd naturiol.
- Defnyddir atalwyr drafft a dillad cynnes fel bod llai o alw am ddefnyddio ynni.
- Gwresogir y swyddfa yn ystod oriau gwaith yn unig.
- Mae prif wresogydd y swyddfa’n un is-goch, sy’n fwy effeithlon o ran ynni na gwresogyddion dargludo neu reiddiaduron.
- Ni chaiff unrhyw offer trydanol ei adael ymlaen, hyd yn oed yn y modd segur, pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
- Caiff tudalennau porwyr gwe eu cau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
- Defnyddir cyn lleied â phosibl ar storfeydd cwmwl a chyfrifiadura cwmwl.
- Caiff gofynion ynni’r busnes eu pweru gan drydan o ffynonellau 100% adnewyddadwy – Good Energy yw’r cyflenwr ynni. (Nid oes prif gyflenwad nwy yn cyrraedd eiddo Sue Proof.)
- Mae mesurydd clyfar wedi’i osod yn yr eiddo.
Defnyddio dŵr
- Mae natur y busnes yn golygu na ddefnyddir dŵr ar ddibenion busnes tu hwnt i dynnu dŵr y toiled, golchi dwylo a gwneud panad.
- Mae mesurydd dŵr yn yr eiddo.
Hierarchaeth defnyddio papur a gwaredu cetris inc argraffydd
- Aargraffu cyn lleied â phosibl, ond pan fo angen argraffu …
- argraffu ar ddwy ochr y papur, a
- threfnu’r testun i ddefnyddio cyn lleied o dudalennau â phosibl, ac os na fydd yn cael ei arddangos …
- defnyddio’r argraffydd ar y gosodiad drafft/economi.
- Dim ond ar ôl i bapur gael ei ddefnyddio ar y ddwy ochr a’i fod yn wastraff, ei ddefnyddio at ddibenion eraill a/neu ei ailgylchu.
- Caiff cetris inc argraffydd gwag eu hailgylchu drwy gynllun codi arian elusen y Cats Protection League.
Gwastraff arall
- Nid yw’r busnes yn creu llawer o wastraff; mae’r gwastraff sy’n codi yn cael ei waredu mewn modd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol.
O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y byddaf yn newid y datganiad hwn drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau. Dyddiad yr adolygiad diweddaraf: 17 Ionawr 2023.