Datganiad cwcis a phreifatrwydd

Beth ydi cwcis?

Ffeil bach yw cwci, sy’n cael ei osod gan wefan ar ddisg galed eich cyfrifiadur i gasglu a chofio gwybodaeth am eich profiad a’ch dewisiadau wrth ddefnyddio’r wefan. Nid yw cwci yn rhoi unrhyw fath o fynediad i mi i’ch cyfrifiadur, nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych yn dewis ei rannu.

Y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon

Gellir gosod y cwcis canlynol:

  • cwcis a ddefnyddir gan y wefan i gofnodi pa iaith i’w defnyddio
  • cwcis a ddefnyddir gan y darparwr gwe-letya i wella perfformiad y wefan
  • cwci sy’n cofnodi pan fyddwch chi wedi gweld y rhybudd cwcis fel na chaiff ei ddangos yn amlach nag sydd angen.

Mae’r wefan hon hefyd yn defnyddio Google Analytics i gynhyrchu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan hon. Mae eich cyfeiriad IP a’ch asiant defnyddiwr yn cael eu rhannu â Google, yn ogystal â gwybodaeth perfformiad a diogelwch. Caiff yr wybodaeth a grëir gan y cwci ei drosglwyddo i, a’i storio ar, weinydd yn yr Unol Daleithiau. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti os bydd gofyn cyfreithiol iddo wneud, neu pan fo trydydd parti yn prosesu gwybodaeth ar ran Google.

Byddwch yn gweld bar ar dudalen hafan y wefan lle gallwch dderbyn neu wrthod cwcis ar gyfer y wefan hon.

Sut wnaiff Sue Proof ddiogelu eich preifatrwydd?

Os gofynnaf i chi roi gwybodaeth benodol y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwch fod yn siŵr mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y defnyddir yr wybodaeth hon.

Pa wybodaeth sy’n cael ei gasglu, a pham?

Dim ond gwybodaeth rydych chi’n ei gynnig y byddaf yn ei chasglu. Os byddwch yn cyflwyno’r ffurflen ymholiadau ar fy ngwefan, neu’n anfon ebost ataf yn uniongyrchol gydag ymholiad, byddaf yn casglu data personol lleiafsymiol gennych: fel arfer eich enw, cyfeiriad ebost ac efallai rif ffôn. Os byddaf yn eich cyfarfod yn y byd go iawn a’ch bod yn mynegi diddordeb yn fy musnes, efallai y gwnaf gasglu data personol lleiafsymiol gennych, hyd yn oed os mai dim ond eich enw yw hynny. Os byddwch yn dod yn gleient, byddaf hefyd yn casglu cyfeiriad post.

Rwyf angen yr wybodaeth yma am y rhesymau canlynol:

  • ar gyfer gwella fy ngwasanaethau
  • ar gyfer ymateb yn iawn i’ch ymholiadau
  • ar gyfer cadw cofnodion mewnol
  • os ydych chi’n gleient, i anfon anfoneb atoch
  • os ydych chi’n gleient, er mwyn gallu rhoi gwybod ichi yn ddiymdroi pe byddai unrhyw anffawd yn digwydd i mi.

Beth yw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data?

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (General Data Protection Regulation/GDPR) yn berthnasol i’r data personol y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod. Mae’r hawl gennych i:

  • gael eich hysbysu, yn awtomatig ac ar unwaith, y byddaf yn cadw unrhyw ddata y gofynnais amdano
  • cael mynediad at y data rwy’n ei gadw amdanoch, o fewn mis
  • wneud i mi gywiro data anghywir neu anghyflawn, o fewn mis fel arfer
  • gofyn i mi ddileu eich data
  • cyfyngu arnaf i’n prosesu eich data
  • gwrthwynebu i mi brosesu eich data
  • peidio bod yn destun penderfynu a phroffilio awtomatig gennyf.

Diogelwch

Rydw i’n ymroddedig i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb ganiatâd, rydw i wedi gosod gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol ar waith i ddiogelu’r wybodaeth rydw i’n ei gasglu amdanoch.

Sut cadwaf eich data personol

Defnyddiaf eich data personol ar gyfer cadw cofnodion mewnol. Pan fo cysylltiad cyfredol â chi, cadwaf y data am chwe blynedd o ddyddiad y cyfathrebu diwethaf; gyda pherthynas nad aeth y tu hwnt i’r cyswllt cyntaf, fe’i cadwaf am chwe mis.

Byddaf yn cadw’r data personol sydd gennyf ar eich cyfer yn ddiogel. Mae gennyf fesurau ffisegol, electronig a rheolaethol priodol ar waith i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

Oni bai eich bod yn dweud wrthyf am beidio, ar gyfer cleientiaid y mae gennyf berthynas waith gyfredol â nhw, byddaf yn rhannu data personol lleiafsymiol gydag un trydydd parti dibynadwy. Mae hyn er mwyn ichi gael gwybod yn ddiymdroi pe bai unrhyw beth anffodus yn digwydd i mi. Bydd yr unigolyn hwn hefyd yn cadw eich data personol yn ddiogel. Mae gan yr unigolyn hwn fesurau ffisegol, electronig a rheolaethol ar waith i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

Mi roddaf gyfarwyddyd i’r trydydd parti ddileu data personol o’r fath ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad diwethaf ichi fod mewn cysylltiad â mi.

Nid oes gan unrhyw drydydd parti arall fynediad at eich gwybodaeth oni bai fod y gyfraith yn caniatáu hynny iddyn nhw. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol fy mod yn defnyddio rhai gwasanaethau ar-lein sy’n defnyddio gweinyddion wedi’u lleoli y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Yr hyn na wnaf â’ch data personol

Ni wnaf ddefnyddio’ch data personol at ddibenion marchnata, ac ni wnaf ei werthu.

Heblaw am ei rannu gyda’r trydydd parti dibynadwy, ni wnaf rannu’ch data personol heb eich caniatâd oni bai fod rhaid imi yn ôl y gyfraith.

Nid wyf yn talu am hysbysebion ar-lein, felly ni fydd unrhyw gyswllt rhwng fy musnes a’ch gweithgaredd ar-lein.

Y cyfryngau cymdeithasol

Yr unig gyfrifon gyfrifon sydd gan Sue Proof ar y cyfryngau cymdeithasol yw Facebook a Twitter. Nid wyf yn talu am hysbysebion ar-lein, ac nid wyf yn talu i hybu fy negeseuon. Mae’r hyn a welwch amdanaf i ar y cyfryngau cymdeithasol yn ganlyniad o algorithmau’r gwasanaeth hwnnw. Mae’r data personol a welaf i amdanoch chi ar y cyfryngau cymdeithasol yn ganlyniad o’r hyn rydych chi’n dewis ei rannu â Sue Proof.

Defnyddio fy ngwefan

Rwy’n defnyddio diogelwch HTTPS/SSL ar fy ngwefan, ac rwy’n defnyddio cwcis yn gynnil ar y wefan (gweler uchod am fwy o fanylion am gwcis). Mae’r wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, ond unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael fy ngwefan, nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros y gwefannau y byddwch yn eu cyrraedd. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiadau preifatrwydd pob gwefan arall.

O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y byddaf yn newid fy nhelerau ac amodau drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau. Dyddiad yr adolygiad diweddaraf: 16 Mehefin 2021.