Amdanaf i

‘Caiff ei ddatrys drwy gerdded’ a ‘caiff ei ddatrys drwy arbrofi’n ymarferol’ yw ystyr solvitur ambulando. Byddai hwn yn arwyddair personol da i mi, gan fod gen i natur ymarferol, yn ogystal â ’mod i’n gerddwraig.

Mae’r bobl sy’n cysylltu â fi mor bwysig i mi ac yw eu prosiectau iddyn nhw. Nid yw pawb sy’n cychwyn sgwrs efo fi yn mynd ymlaen i ddefnyddio fy ngwasanaethau, ond os gallaf eich helpu mewn unrhyw ffordd arall, fe wna i.

Ond peidiwch â chymryd fy ngair i’n unig am hyn: dyma rai o’r sylwadau digymell rydw i wedi’u cael gan ymholwyr a chleientiaid dros y blynyddoedd.

Mae’r gwaith yn drwyadl iawn yn fy marn i. Joban dda o waith.

Llên Natur/Cymdeithas Edward Llwyd

Mae hyd yn oed y goreuon yn elwa o gael pâr arall o lygaid i edrych dros eu testun.

perchennog Cyfieithu Amnis

Ni fyddwn i yn bersonol yn dewis cyfieithydd arall ar gyfer fy ngwaith creadigol.

perchennog Gwasg Carreg Gwalch, awdur, prifardd ac archdderwydd

Rydw i’n mwynhau ymgymryd â heriau newydd. Yn ogystal â gwneud y mathau o waith a ddisgrifir ar fy nhudalen prosiectau, rydw i wedi cael fy nghomisiynu i addasu barddoniaeth o Gymraeg i Saesneg, ac i drawsysgrifio dyddiadur a ysgrifennwyd â llaw yn y ddeunawfed ganrif. Ar y pryd, doedd gen i ddim hanes o weithio yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, llwyddais i gwrdd ag anghenion y cleientiaid ac rydw i wedi derbyn gwaith pellach ganddyn nhw.

Rydw i’n parhau i gyfieithu o Gymraeg i Saesneg. Mae rhai o’r cerddi rwyf wedi’u cyfieithu ar gyfer fy niléit fy hun, yn ogystal â rhai o fy nghyfansoddiadau gwreiddiol, i’w gweld ar fy mlog ysgrifennu: ’Sgwennu Sue.

Yn 2020, fi oedd y cyntaf i gael fy newis i gymryd rhan yng Nghynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru fel egin gyfieithydd llenyddol. Yn sgil hynny, rwyf wedi cwblhau cyfieithiad o Gymraeg i Saesneg o nofel gyntaf Sian Northey, Yn y Tŷ Hwn. Cewch ddarllen am y profiad hwn ar fy mlog Saesneg Sue.

I’r rhai sy’n hoffi ychydig o gefndir, rydw i’n byw ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, gyda’r Wyddfa a’r môr o fewn golwg. Dechreuais fy ngyrfa yn gwneud mapiau, gan fynd yn fy mlaen wedyn i gwblhau gradd mewn Rheolaeth Adnoddau Gwledig. Roeddwn i’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol tan 2007, yn gwneud gwaith amgylcheddol a chymunedol.

Penderfynais weithio ar fy liwt fy hun i leihau fy ôl troed carbon, yn hytrach na gyrru i ryw swyddfa a dweud wrth bobl eraill am leihau eu holion troed hwythau. Rydw i bellach yn gweithio o fy nghartref, ac ers i mi sefydlu Sue Proof, rydw i wedi teithio 63% o fy 10,000 o filltiroedd busnes gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.