Sue Proof

Mae Sue Proof yn trawsnewid eich geiriau crai yn Saesneg clir a chywir, a gall hyn wella’ch delwedd.

Ers 2008 mae Sue Proof wedi trin dros 3 miliwn o eiriau Saesneg. Boed eich testun angen ei ailwampio’n sylweddol, neu angen dim mwy na mireinio terfynol, gall Sue eich helpu.

Pa wasanaeth fyddai orau?

Y nod yw galluogi pobl i ddarllen eich testun yn Saesneg a deall eich neges yn hawdd. Dydych chi ddim eisiau iddyn nhw ffwndro neu ddiflasu wrth ddarllen.

Pa wasanaeth sy’n gweddu orau i’ch prosiect?

Rhoi sglein terfynol ar eich geiriau

Tynnu testun ynghyd ar ffurf drafft

Cyflwyno testun gydag arddull penodol, e.e. byrrach, symlach, neu addas ar gyfer y we

Troi gwybodaeth grai yn destun rhesymegol a llyfn

Efallai y bydd gwahanol wasanaethau yn berthnasol yn ystod gwahanol gamau wrth ddatblygu eich testun.

Os nad ydych chi’n siŵr pa gam mae eich testun wedi’i gyrraedd, neu os hoffech wybod rhagor am ba wasanaeth sydd fwyaf priodol, gallwch daro golwg dros fy nhudalen gwasanaethau, codi’r ffôn neu anfon ebost ataf ac fe wna i fy ngorau i’ch helpu.

Byddwch yn cysylltu ag uwch aelod proffesiynol o’r Chartered Institute of Editing and Proofreading (y Society for Editors and Proofreaders cynt); gallwch fod yn sicr mod i’n ymrwymedig i God Ymarfer y gymdeithas.

Prosiectau enghreifftiol

Dyma sut rydw i wedi helpu rhai cleientiaid gyda’u testunau. Roedden nhw ar wahanol gamau yn natblygiad eu gwaith, ac felly roedd angen gwahanol wasanaethau arnyn nhw.

Adroddiad #19 yr Independent Monitoring Board y Global Polio Eradication Initiative

Mae’r adroddiad 78 tudalen hwn ar y cynnydd tuag at ddiddymu poliomyelitis yn un o hanner dwsin yr wyf wedi eu prawf ddarllen i’r cleient hwn

Mae’n hanfodol bod adroddiadau ysgrifenyddiaeth y Board yn awdurdodol, ond wedi’u hysgrifennu mewn iaith hygyrch. Yn ogystal â phrawf ddarllen ei adroddiadau, rydw i’n rhoi cymorth i’r ysgrifenyddiaeth ddatblygu canllawiau steil ar gyfer adroddiadau’r Board.

Mae’r Board yn darparu asesiad annibynnol o’r cynnydd mae’r Global Polio Eradication Initiative yn ei wneud o ran darganfod a tharfu ar drosglwyddiad polio’n fyd-eang.

What my clients say

Many thanks for working through the report so quickly …
(Llawer o ddiolch am weithio ar yr adroddiad mor chwim …)

Independent Monitoring Board

Adroddiad i Mantell Gwynedd

Fe wnes i olygu copi ar fersiwn Saesneg o adroddiad effaith gymdeithasol ar brosiect presgripsiwn cymdeithasol yng Ngwynedd

Pwrpas yr adroddiad oedd cyfleu’r effaith a gafodd prosiect Cyswllt Cymunedol Arfon. Cynllun presgripsiwn cymdeithasol ydyw, sy’n cysylltu cleifion â ffynonellau cefnogaeth yn y gymuned. Gan fod angen anfon yr adroddiad at Lywodraeth Cymru, nod y cleient oedd ‘gwneud yn siŵr ei fod yn gywir’.

Mantell Gwynedd yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol yng Ngwynedd.

What my clients say

Thank you for all your work, all the notes were really clear and helpful, and thank you also for doing the work so promptly. (Diolch i chi am eich holl waith, roedd y nodiadau i gyd yn hynod o glir a defnyddiol, a diolch i chi hefyd am wneud y gwaith mor brydlon.)

Rheolowr Gwerth Cymedeithasol